Hud a lledrith yng ngerddi’r Gororau

‘Dwi’m yn hoffi’r math yma o beth, mewn gwirionedd. Mi fasai’n well gen i fod yn fy ngardd yn gweithio’ meddai Betty Pennell wrth sgwrsio yn ystod agoriad swyddogol arddangosfa o’i gwaith hi a’i gwr , Ronald Pennell, sydd i’w weld yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar hyn o bryd (Gerddi·Mythau·Hud : gwaith Betty Pennell a Ronald Pennell,  7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014)   http://www.canolfangrefftrhuthun.org.uk/

Mae Betty a’i gŵr wedi bod yn cydweithio fel artistiaid ers iddyn nhw gwrdd â’i gilydd yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain nôl yn y 1950au, lle roedden nhw’n cael eu dysgu gan arlunwyr dylanwadol fel John Nash. Arlunio yw ei dileit hi ac mae’r arddangosfa’n cynnwys enghreifftiau o waith ysgythru manwl  (ar berspecs), paentiadau olew a lluniau golosg. Mae coed a llwyni i’w gweld ym mhob un o’r gweithiau – o fonion crebachlyd a melfedaidd y lluniau golosg i’r ysgythriadau manwl o lwyni a gwrychoedd mewn gerddi ffurfiol fel Hergest Croft a Brondanw, a’r coedwigoedd tywyll yn y lluniau olew mwy lliwgar.

No Way Out by Betty Pennell
Ond mae rhyw straeon dirgel yn perthyn iddyn nhw i gyd –  mae llwybrau, corneli cudd a bylchau bychain mewn gwrych yn denu’r llygad yn ddwfn i fannau tywyllach yn y darluniau, a chymeriadau yn crwydro, rhedeg, chwilio a ffoi.

Ond i ble, a pham? A phwy yw’r cymeriadau hyn? Does dim esboniad. Dim ond dychymyg yn carlamu dros gynfasau.

The Chase Oil Painting by Betty Pennell

‘Dwi allan yn yr ardd bob dydd’ ychwanegodd Betty. ‘Mae gerddi wedi bod yn bwysig erioed i mi – mae gen i go’ plentyn o grwydro a chwarae mewn gerddi  tai mawr yn Sir Drefaldwyn,  lle roedd yr darnau mwy ffurfiol  yn newid i fod yn ardaloedd mwy gwyllt ymhellach o olwg y ty, ac mae’r profiadau hynny wedi dylanwadu’n fawr arna’ i.’

coed golosg betty pennell

Maen nhw wedi ceisio creu’r un naws efallai yn eu gardd nhw eu hunain, ar erw o lethr serth uwchben dyffryn Gwy. Fe lwyddon nhw ddofi  hanner erw o fieri trwchus er mwyn creu chwech o derasau ffurfiol,  ond coedwig naturiol sy’n gorchuddio’r gweddill. ‘Yr ardd yw fy nghreadigaeth fawr’, cyfaddefodd Ronald, a fu wrthi’n castio 40 slabyn i greu stepiau i’r terasau, a’u lliwio â llaw fel eu bod yn gweddu’n berffaith gyda thywodfaen naturiol yr ardal.

Ysgythru cain ar fowlenni gwydr a chastio tabledi efydd o faint cledr law yw crefft Ronald; mae pob darn yn adrodd rhyw stori drwy gymeriadau boliog, symbolau, a chreaduriaid mytholegol, dychmygol – er efallai mai digwyddiadau, lleoliadau a chymeriadau bob dydd sy’n rhoi’r ysbrydoliaeth iddo.   ‘Ro’n i’n arfer gweithio’r cyfan allan yn fy mhen cyn dechrau’  meddai, wrth sôn am ei waith gwydr. ‘Ond nawr dwi’n gosod y gwydr ar yr olwyn a dechrau ysgythru’n syth, a gadael i’r stori ddatblygu fel dwi’n mynd yn fy mlaen’. Anhygoel.

Rare Bird by Ronald PennellThe Grand Fallacy by Ronald Pennell

Mae gwaith oes yn yr arddangosfa hon. Mae ‘na greadigrwydd a dychymyg gwyllt a heintus yng ngwaith y ddau sy’n cyferbynu gyda  disgyblaeth a pherffeithrwydd hynod eu crefft. Maen nhw’n artistiaid gwylaidd a balch: ‘Gall pobl ddweud beth a fynnon nhw amdanon ni ond ein gwaith ni sy’n cyfri’. Dyna be’ sy’n bwysig i ni ac ry’n ni eisiau i bobl ei weld ar ei orau bob amser’ pwysleisiodd Ronald.

Ar diwedd y sgwrs ro’n i’n dal i bendroni sut ar y ddaear roedd Ron yn llwyddo creu darluniau mor gywrain a chymhleth ar wydr gydag olwyn ysgythru, ac yn dal i ryfeddu ei fod yn gwneud y cyfan o’i ben a’i bastwn heb unrhyw gynllun. Roedd rhaid holi unwaith eto am esboniad.

‘Dewch lawr i’r gweithdy rhywdro er mwyn cael gweld sut dwi’n gwneud y gwaith’ , awgrymodd yn garedig.  A dwi’n meddwl y gwna i – neu pendroni fydda i,am byth.