Cefn Ila – llonyddwch yn y niwl

Cae Kennol, Cae Rychan, Coed y Moors, The Warrant, Cae Skipper……..

Rhai o enwau hyfryd hen ‘stad Cefn Ila, ger Brynbuga yw’r rhain. Mae’r lle wedi newid dwylo ddegau o weithiau ers y cofnodion cynnar o ‘Kenhyley’ nôl yn 1623, a’r perchnogion yn dod o bob cyfeiriad – Caint, Surrey, Cernyw, Caerhirfryn, Caergrawnt..

Ond ers rhyw ddegawd mae darn o’r ‘stad yn eiddo i Goed Cadw. Llwyd a llaith oedd y lle pan fues  i yno’n crwydro rhai diwrnodau nôl.  Roedd pentref cyfagos Llanbadog, man geni Alfred Russell Wallace, fel y bedd. Rhywdro arall fe af i chwilio am Kensington House, lle treuliodd Wallace flynyddoedd cynnar ei fywyd, ond nid heddiw. Rhyw ddwy awr o olau dydd oedd ar ôl a dim pall ar y glaw mân.

001

Naws digon digalon oedd i Gefn Ila yn y glaw. ‘Doedd dim enaid byw yno. Nôl yn 2009 fe brynodd Coed Cadw’r safle’r hen dy a’r ardd Fictoraidd o’i gwmpas. Llosgodd y ty’n ulw yn 1972, 11 diwrnod ar ôl iddo gau fel adran famolaeth Ysbyty Pontypŵl. Roedd wedi bod yn gartref gwella ar gyfer menywod a phlant ac efacwîs ers yr Ail Ryfel Byd ond twll distaw sydd yno heddiw, yng nghanol  y coed blêr. Mae’n anodd dychmygu’r holl fywydau, a’r holl fynd a dod – fel y partïon te anarferol y byddai Edward John Trelawney yn eu cynnal ar gyfer yr ‘intelligentsia’ lleol bob p’nawn dydd Sul pan oedd yn byw yno yn ystod canol y 19fedG. A thybed a oes rhai coed sbesimen anferth sydd yno heddiw  wedi tyfu o’r egin bychain a gododd Trelawney o fedd Shelley i’w plannu yn ei ardd?

Mae olion y berllan a’r ardd furiog yn dal i lechu yng nghanol y tyfiant – y coed afal a gellyg hynafol yn sgrialu’n ddi-siap, a sgerbydau hen adeiladwaith gardd blith draphlith ar hyd y ddaear .

043

044

O gwmpas yr hen ardd, ar hyd hen ddarn o barcdir, mae Coed Cadw wedi plannu 16,100 o goed fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i blannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru. Mae’r plannu hefyd yn cwrdd ag amcanion Coed Cadw i gysylltu darnau gwasgaredig o goedwig er mwyn creu tiroedd coediog eang ar hyd Cymru. Roedd ambell goeden hynafol a nobl yn codi o ganol y llwyni newydd a sypiau o uchelwydd  a barf hen ŵr ar hyd hen wrychoedd, yn  ond diflannu’n raddol mae tirwedd pictwrésg y 18fedG dan y fforest newydd hon.

015

Uwchlaw’r cyfan roedd ffatri ffrwydron Glascoed yn codi’n fyncar gwyrdd llyfn a llachar tu ôl i ffens weiar anghynnes.

Roedd hi’n dawel, yn llwm yng Nghefn Ila y diwrnod hwnnw; y llwydwyll yn cau’n drist amdana i wrth gerdded nôl at y maes parcio a’r niwl yn dal i ddisgyn yn gwrlid dros hen ysbrydion.

065

Ni chaniateir rhagor o sylwadau.