‘Dwi’m yn hoffi’r math yma o beth, mewn gwirionedd. Mi fasai’n well gen i fod yn fy ngardd yn gweithio’ meddai Betty Pennell wrth sgwrsio yn ystod agoriad swyddogol arddangosfa o’i gwaith hi a’i gwr , Ronald Pennell, sydd i’w weld yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar hyn o bryd (Gerddi·Mythau·Hud : gwaith Betty Pennell a Ronald Pennell, 7 Rhagfyr 2013 – 2 Chwefror 2014) http://www.canolfangrefftrhuthun.org.uk/
Mae Betty a’i gŵr wedi bod yn cydweithio fel artistiaid ers iddyn nhw gwrdd â’i gilydd yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain nôl yn y 1950au, lle roedden nhw’n cael eu dysgu gan arlunwyr dylanwadol fel John Nash. Arlunio yw ei dileit hi ac mae’r arddangosfa’n cynnwys enghreifftiau o waith ysgythru manwl (ar berspecs), paentiadau olew a lluniau golosg. Mae coed a llwyni i’w gweld ym mhob un o’r gweithiau – o fonion crebachlyd a melfedaidd y lluniau golosg i’r ysgythriadau manwl o lwyni a gwrychoedd mewn gerddi ffurfiol fel Hergest Croft a Brondanw, a’r coedwigoedd tywyll yn y lluniau olew mwy lliwgar.
Ond mae rhyw straeon dirgel yn perthyn iddyn nhw i gyd – mae llwybrau, corneli cudd a bylchau bychain mewn gwrych yn denu’r llygad yn ddwfn i fannau tywyllach yn y darluniau, a chymeriadau yn crwydro, rhedeg, chwilio a ffoi.
Ond i ble, a pham? A phwy yw’r cymeriadau hyn? Does dim esboniad. Dim ond dychymyg yn carlamu dros gynfasau.
‘Dwi allan yn yr ardd bob dydd’ ychwanegodd Betty. ‘Mae gerddi wedi bod yn bwysig erioed i mi – mae gen i go’ plentyn o grwydro a chwarae mewn gerddi tai mawr yn Sir Drefaldwyn, lle roedd yr darnau mwy ffurfiol yn newid i fod yn ardaloedd mwy gwyllt ymhellach o olwg y ty, ac mae’r profiadau hynny wedi dylanwadu’n fawr arna’ i.’
Maen nhw wedi ceisio creu’r un naws efallai yn eu gardd nhw eu hunain, ar erw o lethr serth uwchben dyffryn Gwy. Fe lwyddon nhw ddofi hanner erw o fieri trwchus er mwyn creu chwech o derasau ffurfiol, ond coedwig naturiol sy’n gorchuddio’r gweddill. ‘Yr ardd yw fy nghreadigaeth fawr’, cyfaddefodd Ronald, a fu wrthi’n castio 40 slabyn i greu stepiau i’r terasau, a’u lliwio â llaw fel eu bod yn gweddu’n berffaith gyda thywodfaen naturiol yr ardal.
Ysgythru cain ar fowlenni gwydr a chastio tabledi efydd o faint cledr law yw crefft Ronald; mae pob darn yn adrodd rhyw stori drwy gymeriadau boliog, symbolau, a chreaduriaid mytholegol, dychmygol – er efallai mai digwyddiadau, lleoliadau a chymeriadau bob dydd sy’n rhoi’r ysbrydoliaeth iddo. ‘Ro’n i’n arfer gweithio’r cyfan allan yn fy mhen cyn dechrau’ meddai, wrth sôn am ei waith gwydr. ‘Ond nawr dwi’n gosod y gwydr ar yr olwyn a dechrau ysgythru’n syth, a gadael i’r stori ddatblygu fel dwi’n mynd yn fy mlaen’. Anhygoel.
Mae gwaith oes yn yr arddangosfa hon. Mae ‘na greadigrwydd a dychymyg gwyllt a heintus yng ngwaith y ddau sy’n cyferbynu gyda disgyblaeth a pherffeithrwydd hynod eu crefft. Maen nhw’n artistiaid gwylaidd a balch: ‘Gall pobl ddweud beth a fynnon nhw amdanon ni ond ein gwaith ni sy’n cyfri’. Dyna be’ sy’n bwysig i ni ac ry’n ni eisiau i bobl ei weld ar ei orau bob amser’ pwysleisiodd Ronald.
Ar diwedd y sgwrs ro’n i’n dal i bendroni sut ar y ddaear roedd Ron yn llwyddo creu darluniau mor gywrain a chymhleth ar wydr gydag olwyn ysgythru, ac yn dal i ryfeddu ei fod yn gwneud y cyfan o’i ben a’i bastwn heb unrhyw gynllun. Roedd rhaid holi unwaith eto am esboniad.
‘Dewch lawr i’r gweithdy rhywdro er mwyn cael gweld sut dwi’n gwneud y gwaith’ , awgrymodd yn garedig. A dwi’n meddwl y gwna i – neu pendroni fydda i,am byth.