Gornes flynyddol ar gaeau Pandy Tudur

Yn y cyfnod tawel rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac o dan glwt o awyr las annisgwyl yng nghanol stormydd Rhagfyr fe deithiais i gornel anghyfarwydd o Gymru i gael blas ar draddodiad lleol newydd.  Fues i ddim yn ddigon trylwyr wrth wneud fy ngwaith cartref; mae’r ardal i’r de o’r A55, rhwng Llanrwst a Abergele, yn edrych yn gamarweniol o wyrdd ac eang ar fap Google Earth  ac roeddwn i’n disgwyl siwrne rwydd a chyflym. Ond mae’r lôn o Abergele i  fferm Pen Isa ger Llangernyw yn gythreulig o hir a throellog ac mi ro’n i’n hwyr yn cyrraedd.

042

Doedd neb o gwmpas buarth y fferm. Dim ond y casgliad o gerbydau 4×4 a sŵn grwndi llifiau cadwyn o bell oedd yn awgrymu mod i wedi dod i’r lle cywir, sef safle cystadleuaeth flynyddod plygu gwrychoedd Pandy Tudur. Fe gymerodd chwarter awr arall i ddringo’r trac serth o’r buarth, drwy gawl o fwd, nes cyrraedd y fan lle roedd criw da wedi hel a darnau o wrych wedi cael eu rhannu’n barod rhwng rhyw ddwsin o blygwyr gwrych – rhai yn gweithio’n uniogl a rhai mewn tîm o ddau neu dri, fel arfer gyda phlentyn yn helpu ac yn dysgu crefft. Roedden nhw i gyd wrthi’n brysur yn brathu, naddu a hollti pren gyda’u llifiau trydan a’u bilwgau, ac yn tynnu ar ganghennau wrth geisio dofi rhesi o goed helyg, cyll a drain.

001

Eglurodd un o’r trefnwyr wrtha i mai hon oedd trydedd blwyddyn y gystadleuaeth a gychwynnwyd  er cof am Maldwyn, gŵr lleol a fu farw o glefyd Motor Neurone. Roedd y gystadleuaeth yn tyfu’n fwy poblogaidd bob blwyddyn; roedd un cystadleuydd hyd yn oed wedi dod o sir Benfro eleni, ac wedi cychwyn am 4 o’r gloch y bore er mwyn cyrraedd mewn pryd. Eleni hefyd oedd y tro cyntaf i ddynes gystadlu. ‘Mae’r peth ‘dy cydio’ meddai’r trefnydd, ‘ac mae ffermwyr lleol nawr yn gadael rhai o’u gwrychoedd heb eu tocio fel bod gynnon ni stoc am flynyddoedd ar gyfer y gystadleuaeth’.

Roedd holl hwyl y dydd yn digwydd o fewn llain 6m o led ar hyd dau ddarn o wrych, ac mewn dwy babell le roedd y croeso a’r paneidiau’n gynnes. Ar hyd y cloddiau roedd y criwiau o gefnogwyr ac ymwelwyr yn gwylio’r gwaith yn mynd yn ei flaen, yn estyn tŵls ac yn casglu’n griwiau bychain o ddau neu dri i gyfnewid barn a newyddion cyn chwalu eto a chario ‘mlaen i gerdded a gwylio. Drwy’r bore roedd pobl yn dal i gyrraedd i wylio’r gystadleuaeth a chwrdd â chymdogion, gan ymddangos dros y gorwel glaswelltog mewn trêlyrs twt y tu ôl i ATVs.

010

Roedd ambell un o’r cystadleuwyr wedi bod yn ffodus – ac wedi cael darn o wrych gyda choed o faint a siap unffurf, taclus fel y gallen nhw fwrw ati’n syth i hollti’r bonion a phlygu’r tyfiant drosodd yn weddol ddi-drafferth a’i blethu’n rhwydd rhwng cyfres o byst newydd sbon. Roedd eraill wedi bod yn anlwcus ac wedi cael rhip o goed hŷn, crebachlyd gyda’r cangehnnau a’r canopi’n chwalu i bob cyfeiriad a bylchau mawr rhwng y bonion. Roedd y darnau hyn yn gofyn am sgiliau plygu mwy eithafol  – llifio’n uchel ym mrig y coed, hongian holl bwysau’r corff ar fonion trwchus er mwyn eu llusgo nol at linell ganol y clawdd, cnoi fesul tipyn ar dyfiant cnotiog gyda’r llif gadwyn a cherfio talpiau o bren yn ofalus o ganghennau onglog er mwyn gallu eu hystumio a’u plethu, yn groes i’w  graen, rhwng y pyst talsyth.

003004017023020

Fe ddysgais ragor wedyn am y broses o ddewis enillydd. ‘Nid gwaith heddiw’n unig sy’n cael ei farnu, cofiwch’ eglurodd un o’r cefnogwyr.’ Mae’r beirniad wedi bod yn barod i’r ffermydd lle buodd y dynion hyn yn gweithio llynedd, er mwyn gweld beth yw safon tyfiant y flwyddyn gyntaf’. Rhywfaint o gysur efallai i rai o gystadleuwyr eleni a oedd wedi cael darnau  anodd a fyddai’n bownd o greu gwrychoedd gyda boncyffion hir moel gyda’r tyfiant byw i gyd ar un pen, a brigau gwyw yn llenwi’r bylchau gweigion.

Pan ddaeth hi’n awr ginio, ac ar ôl i’r plygwyr ddiosg eu menyg a’u helmedau a throi am y pebyll bwyd i gael llond boliaid o lobscows, te a chacennau mi gerddais yn ôl ar hyd y gwrychoedd unwaith eto, heibio’r tomenni  llwyd o frigau a orweddai bob ochr iddyn nhw fe fel llinellau o ewyn brwnt, i gael golwg arall ar y gwaith heb sŵn cyson ac oglau’r llifiau cadwyn yn llenwi’r awyr. Dim ond dwy awr oedd i fynd cyn diwedd y gystadleuaeth. Roedd tipyn o waith ar ôl gan un neu ddau o’r cystadleuwyr ond i eraill roedd yr her bron ar ben, gyda phymtheg mlynedd o dyfiant wedi ei ddofi ac yn gorwedd yn ddarnau cul a thaclus o wrych byw, â phennau glân y bonion yn gylchoedd aur ar eu hyd.

038