Dirgelwch perthi Ceredigion

Mae’n ddiwedd haf. Y nosweithie’n tynnu mewn a’r boreau’n rhynllyd.

Amser da i edrych drwy hen luniau a chofio am y misoedd cynnes, lliwgar, sy’n dechre teimlo’n bell nôl nawr.

Roedd sioe wych eleni o goed tresi aur ar hyd perthi Sir Aberteifi. Maen nhw’n tyfu ar draws y sir (ond yn brin mewn ardaloedd eraill o Gymru), yn gymysg yn aml gyda llwyni eraill ar ben cloddiau pridd.  Ond mae’r perthi pur o goed tresi aur yn yr ardal o gwmpas Synod Inn, Plwmp, Blaenporth a Ffostrasol yn rhyfeddol.

186

Ond mae eu tarddiad yn ddirgelwch. Pam, wedech chi, bod ffermwyr wedi mynd ati i blannu coeden sydd â hadau mor wenwynig nôl ar ddechrau ac yn nghanol y 19egG?

Dwi wedi bod yn ymchwilio ond heb gael ateb clir.

Coeden o fynydd-dir canol a de Ewrop yw’r tresi aur. Fe gafodd ei gyflwyno i Brydain yn 1597 ac yn ôl un cofnod ar y we roedd Gerard, y llysieuydd enwog, yn ei dyfu yn ei ardd. Fe ddarganfuwyd yr alcaloid gwenwynig ‘Cytisine’ yn yr hadau yn 1863.

Ar un adeg ro’dd tipyn o fri ar y pren – mae’r pen craidd yn dywyll ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn lle mahogani ac eboni, yn ôl y son. Mae’r pren ifanc yn felyn llachar a roedd yn boblogaidd ar un adeg ar gyfer turnio handlenni offer llaw.

Gall bonion y coed dyfu i 80-100cm o led ar eu traws. Mae ffermwyr yn rheoli’r tyfiant drwy fôndorri a gall hyd at 10 coesyn dyfu o’r prif stôl. Os na chan nhw eu torri nôl fel hyn mae’r coed yn dueddol o farw ar ôl cyrraedd y lled hwn yn ôl Arthur Chater, un o fotanegwyr enwocaf Ceredigion.

169

Maen nhw’n tyfu’n rhwydd o doriadau ac fel hyn maen nhw’n cael eu lledu fel rheol, yn ôl Chater, er bod awdur farmlifeinwales.blogspot.co.uk mae’r llwyni ry’n ni’n eu gweld heddiw wedi tyfu o byst ffensio a blannwyd flynyddoedd yn ôl.

Ond nôl i’r cwestiwn – pam plannu llwyni gyda hadau mor wenwynig?

‘Falle bod awgrym o’r ateb yn y llyfr ‘Agricultural Surveys pts 1-2 South Wales 1815’.

Fel hyn mae’r llyfr yn sôn am y ‘Labrurnum’ (neu’r ‘banadl Ffrainge’ fel mae’r llyfr yn ei ddisgrifio– sef banadl ffrengig – gyda ‘Ffrengig’ yn cael ei ddefnyddio fan hyn i disgrifio’r elfen ‘dramor’ neu ‘ecsotig’ fel y gwelir hefyd yn achos yr ethinen Ffrengig (Ulex Europaeus)

“…..easily raised from seed, will succeed in various soils, even in the poor and hungry: though where there is a considerable depth, its progress is amazing.Its wood is by some preferred to mahogany, being close-grained and beautifully coloured. Hares will not browse any other tree, as long as any of the laburnum remains in a plantation; and though eat the ground every winter it will spring with additional vigour the succeeding summer. The produce of a few shillings worth of seed will furnish plants enough to protect half a million of other trees.”

Hmm. Tybed ai natur gybyddlyd (honedig) y Cardis arweiniodd at y plannu helaeth  yn y 19egG ? Mae’n goeden sy’n swnio’n werth da am arian– yn tyfu’n rhwydd a chyflym o hadau, yn aildyfu hyd yn oed ar ôl pori, y pren yn werthfawr a sgwarnogod yn gadael llonydd i bob coeden arall o’i chwmpas.

Gwario ychydig yn dwyn elw ar ei ganfed.

Ond tybed pam bod cymaint ohonyn nhw yn ardal Synod a Blaenporth? Pwy oedd yr ‘entrepreneur’ a ddaeth â nhw i’r ardal a’u plannu yn y lle cyntaf, a dylanwadu ar gymdogion efallai i ddilyn ei esiampl?

Mae rhai’n dadlau ar ambell wefan mai oherwydd eu harddwch mae ffermwyr wedi plannu llwyni tresi aur. Go brin bod hyn yn gymhelliad i ffermwyr Cymru. Dynion busnes yw ffermwyr a diwydiant yw amaethyddiaeth, wedi’r cyfan – mae’n rhaid bod rhyw ddefnydd ymarferol a budd ariannol wedi bod wrth wraidd y plannu cynnar.

181

Gwell peidio oedi ar y pwynt yna’n rhy hir. Ymlaen at lwyn arall atyniadol, blodau pinc, sydd i’w weld ar hyd a lled sir Aberteifi, sef yr erwain dail helyg Spirea salicifolia.

032

Yn ôl y Cardiganshire Antiquarian Society Vol 10, 1935, Flowering Plants and Ferns of Cardiganshire, mae hwn yn blanhigyn estron sydd wedi sefydlu ym Mhrydain ers amser maith (y term Saesneg yw ‘denizen’). Mae’n fwyaf cyffredin mewn gwrychoedd yn ymyl bythynnod ond hefyd i’w weld ymhell o dai, yn ôl y gyfrol hon. Mi synnodd y botanegydd Edwin Lees (argraffwr 19egG o Gaerwrangon a roddodd y gorau i’w broffesiwn er mwyn astudio a hybu byd natur) o weld y Spirea yn tyfu  ‘midway between  Aberystwyth and Cardigan, there being no garden or habitation near’  (Phytologist 1 1842).

Hyd yn oed bryd hynny roedd y Spirea i’w weld ar hyd a lled y sir – ‘Talgarreg, Blaen Cwrt, commonly between Cardigan and New Quay as near Sinod and Sarau Cerdin Valley, Cletwr Valley, Ceulan Valley, Ponterwyd between Rhydyfelin and New Cross on bye road, Cwm Ystwyth, Lledrod, Llangeithio, Llanilar, Cribyn……… (1842).

025

019

Dyma chi glawdd erwain dail helyg hyfryd, ar y ffordd fawr rhwng Lanrhystud a Llanbed, ger y troad i Silian – ac ydy, mae’r un hwn yn agos at hen fwthyn bach carreg.

Heddiw gallwch weld y llwyni hyn, sy’n ddigon dinod am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ond sy’n cario pyngau o flodau pinc niwlog yn yr haf, – mewn sawl man yng Ngheredigion, ac mae’n tyfu drwy’r rhan fwyaf o Brydain. Mae’n lledu drwy fwrw impiau drwy’r pridd.

Tybed a yw’r ‘salicifolia’ yn yr enw yn awgrymu efallai bod pobl wedi ei dyfu’n agos at dai oherwydd bod ynddo rhyw rinwedd meddyginiethol – oherwydd o’r asid salicilaidd mewn dail helyg y mae asprin wedi tarddu. Ond dim ond tybiaeth yw hon. Efallai eto mai oherwydd parodrwydd y llwyni hyn i ledu heb fawr o ymdrech na chost y cafodd Spirea ei blannu mor healeth.

Mae rhywfaint o ddirgelwch yn dal i fod am darddiad a phoblogrwydd y perthi hyn yng Ngheredigion. Ond ta waeth am hynny – mae’n braf i’w gweld nhw’n llonni’r siwrneau drwy Gymru yn ystod misoedd yr haf bob blwyddyn.

033