Anadl o’r Arctig ar greigiau Cymru…

‘Maen nhw’n dal i fod yn eu blodau’ meddai’n hyderus brynhawn ddoe wrth edrych o bellter mawr drwy ei sbeinglas ar y talpiau o graig tywyll ar ochr ogleddol Cader Idris.

Hwn oedd yr wythfed tro eleni i Rhys Gwynn, un o wardeiniaid lleol y Parc Cenedlaethol, droedio’r llethrau hyn i chwilio am y tormaen porffor (Saxifraga oppostifolia) – un o flodau arctig alpaidd harddaf Eryri. Erbyn ddoe roedd yn gwybod yn union ble roedd bob clustog bron ond roedd siawns go dda, a hithau’n Ebrill 15eg, y byddai’r tymor blodeuo wedi dod i ben.

445

Dringo’n serth o lannau Llyn Gafr, gyda’i draethell gwyn o gerrig rhyolit, i fyny drwy’r grug ac ar hyd llwybrau defaid nes cyrraedd y clogwyni serth, lle mae’r tormaen porffor wedi dal ei afael ers yr Oes Ia ddiwethaf, ac yn llwyddo tyfu o hyd allan o gyrraedd y defaid â’u dannedd barus. Wrth nesáu roedd y blodau  i’w gweld yn lliw magenta llachar yn erbyn y dail tywyll a’r creigiau o’u cwmpas. Mae’r enw Lladin ‘Saxifraga’ yn golygu ‘torrwr meini’ (…… ac felly ‘tormaen’ yn Gymraeg’)  – enw gwych i ddisgrifio teulu o blanhigion sy’n tyfu mewn pocedi bychain o bridd mewn agennau creigiog ac yn cripian yn dynn dros wyneb y graig neu’n ffurfio clustogau i’w gwarchod rhag tywydd a gwyntoedd garw.

421

Gall y tormaen proffor ddechrau blodeuo mor gynnar â Chwefror mewn rhai mannau. Mae’n debyg ei fod yn tyfu’n bellach i’r gogledd nag unrhyw blanhigyn blodeuol arall drwy’r byd gyda chofnodion o arfordir gogleddol yr Ynys Werdd. Ar greigiau Cwm Idwal ddoe roedd nifer fawr o’r blodau wedi dechrau troi’n biws-las wrth iddyn nhw wywo. O fewn wythnos mae’n ddigon tebyg y byddai’r sioe drosodd am flwyddyn arall.

436

O dan chwyddwydr roedd twll bychan fel twll pin ar flaen bob un o’r dail pitw.

‘Hydrothode’ yw’r enw ar y twll’ esboniodd Rhys, ‘ Mae calch yn cael ei  chwysu allan drwy’r twll hwn, gydag anwedd dŵr, pan fydd yr awyr yn sych a chynnes ac mae hwnnw wedyn yn crisialu fel bod y planhigyn yn edrych fel tase tamaid o lwydrew drosto. Mae’r crisialau’n llenwi’r twll fel plwg, sy’n golygu na fydd y planhigion yn gor-sychu – ac maen nhw’n toddi wedyn eto pan fydd yr awyr yn oerach ac yn fwy llaith. Mae ‘na gannoedd o chwarennau bach eraill ar y dail sy’n gollwng calch yn yr un ffordd nes bod y planhigion cyfan weithiau yn grwstog a gwyn. Mae’r blew arian ar hyd ymylon y dail hefyd yn helpu cadw’r lleithder yn yr awyr o gwmpas y planhigion, rhag iddyn nhw sychu .’

Mae’r dail bychain yn barau cyferbyniol ar hyd y coesynnau. ‘Dim ond un pâr sy’n tyfu bob blwyddyn ar y planhigion hyn’, dywedodd, ‘felly mae’n weddol hawdd gweithio allan pa mor hen ydyn nhw’. Fe fuon ni’n cyfri’r dail ar y twmpathau o’n cwmpas a sylweddoli bod y planhigion mor hen, ac mewn rhai mannau yn llawer hŷn na ni’n dau.  O’n cwmpas ym mhob man roedd tyllau bychain yn arwain yn ddwfn i ganol y glaswellt meddal. Tyllau drywod, yn ôl Rhys, ac roedd galwadau main yr adar wedi bod yn tasgu ar hyd y llethrau drwy’r prynhawn. Troglodytes troglodytes yw’r enw Lladin arnyn nhw – sy’n golygu ‘y rhai sy’n byw mewn ogofau’. Disgrifiad perffaith.

447

Nôl â ni, o grafangau’r gwynt oer a’r manlaw ar y llethrau uchel. Ar lawr gwlad, ar y ffordd adre, roedd gwanwyn wedi cydio’n dynn yn y tir. Blodau’r gwynt wedi ymddangos yn sydyn o berfeddion y gaeaf hir a blodau’r
drain duon wedi dechrau ffrwydro’n ewyn gwyn ar hyd y cloddiau.

413

405

406