Betys môr – dail da, drwy’r flwyddyn

Tra’n mod  i’n crwydro arfordir Rhyl wythnos diwethaf, yn chwilio am y difrod a achoswyd gan y pwniad llanw mawr ar Ragfyr 6ed 2013 fe bigais lond poced fawr o ddail betys môr o ganol y moresg ar ochr orllewinol y dre er mwyn eu coginio. Y planhigyn hwn yw rhagflaenydd ein holl fathau cyfoes o fetys. Mae’r dail ychydig yn wydn ar yr adeg hon o’r flwyddyn ond mae’r rhai lleiaf yn dal i  fod yn flasus ac yn dda i’w coginio. Ffordd hawdd o’u defnyddio yw drwy stemio’r dail mewn ychydig o ddŵr berw nes eu bod nhw’n troi’n wyrdd tywyll yna’u malu’n fân a’u stwnshio gyda chaws bwthyn, pupur du a nytmeg (gallwch ychwanegu madarch wedi coginio a’u malu’n fân hefyd i greu blas gwahanol) – mae’n gymysgedd bendigedig ar ben bisgedi ceirch ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ond hefyd yn gwneud llenwad da ar gyfer parseli toes ffilo neu vol-au-vents ar gyfer achlysuron dathlu. Gallwch ddefnyddio betys môr mewn unrhyw rysait sy’n gofyn am sbigolgys. Mae rysait Hugh Fearnley-Whittingstall ar gyfer pwdin caws a betys môr yn werth ei flasu (ond yn well i’w baratoi gyda dail betys ifanc yn y gwanwyn dwi’n meddwl). Edrychwch ar  http://www.theguardian.com/lifeandstyle/2013/mar/15/garlic-alexanders-foraged-greens-recipes

043