Crabaits a Chointreau – cymysgedd perffaith i ddathlu’r Calan!

001

Wrth glirio’r car y bore ‘ma mi ddois ar hyd i ddyrnaid o grabaits (afalau surion bach) yn llechu ym mhoced côt law. Afalau surion Gallt y Tlodion, Llanymddyfri oedd y rhain, wedi cadw’n safff ers rhai wythnosau yn ôl. Roedd y ‘falau wedi gwysno ond ro’n i’n benderfynol o ffeindio rhyw ddefnydd iddyn nhw.

Mae ‘falau surion yn fychan, yn galed ac yn sur ond mae’n nhw’n llawn pectin ac felly’n dda ar gyfer g’neud jeli neu jam – ond mae’n werth bob amser eu cymysgu gyda ffrwyth arall o’r cloddiau fel mwyar neu aeron ysgaw. Mae Richard Mabey, yn ei gyfrol hardd ‘Food for Free’ sydd wedi ei chyhoeddi eto’n ddiweddar (2012), yn rhannu syniadau diddorol am ddefnyddio crabaits. Beth am eu piclo mewn finegr sbeis a’u cymysgu gyda chig mochyn rhôst, neu stwnshio’r ffrwyth gyda siwgr brown, sinamwn, sunsur, nytmeg a chlôfs i greu ‘caws ‘fale’? Roedd yr ola’n apelio’n fawr ond roedd angen 2 bwys o ‘fale. Hyd yn oed gyda chymaint â hynny o ffrwyth dwi’m yn meddwl y b’asai gen i’r amynedd i ddigrwyno, di-greiddio a malu’r marblis bychain hyn.

Ond ro’ n i’n meddwl efallai y byddai fy nyrnaid o ‘falau o Sir Gaerfyrddin yn rhoi ychydig o  flas i lond sosban o win sbeis Nos Calan (ac wedi darllen darn am grabaits yng ngwaith mawr arall Richard Mabey, sef ‘Flora Britannica’, fe ddeallais nad oedd hwn yn syniad hollol newydd!). Beth bynnag am hyn fe ga’dd y ‘falau bychain eu malu’n gynnar bore ‘ma, pan oedd y glaw yn dal i glatsho’n galed yn erbyn ffenestri duon, a’u socian wedyn am 10 awr mewn soser o Cointreau. ‘Dwi newydd daflu’r cyfan i sosban o win sbeis ac wedi blasu rhyw lwyaid. Perffaith. Mae’r darnau bychain o ‘falau surion fel parseli bychain o surni orennaidd yn torri ar draws melysder y gwin. Mae’n werth i chi roi cynnig arni!

Mae’n anodd credu mai o’r pellenni bach melyn a sur hyn, sy’n tyfu ar lwyni mor hyll a heglog a phigog, y tarddodd dros 6,000 math o afalau bwytadwy (sef  Malus domesticus) . Dim ond tua 1/3 o’r mathau hyn sy’n dal i fodoli, yn anffodus. Yn y rhfyn diweddaraf o Natur Cymru (http://www.naturcymru.org.uk/) mae Steve Oram o’r People’s Trust for Endangered Species (PTES) yn adrodd am y gwaith sydd wedi ei wneud i fapio’r holl berllannoedd ar draws Prydain ac Iwerddon. Mae 7,363 perllan yng Nghymru; y mannau pwysicaf o ran nifer y safleoedd yw Powys, Sir Fynwy, Sir y Fflint a Sir Gaerfyrddin. Yn ddiddorol fe serennodd Ceredigion yn well na’r disgwyl gyda 374 o safleoedd a chyfanswm arwynebedd o 6.23 hectar – y 4ydd safle ar ôl Powys, Sir Fynwy a Sir Gâr. Darn nesa o waith prosiect PTES yw sicrhau nad oes llai na 6 safle ar gyfer yr holl fathau o afalau ry’n ni’n gwybod amdanyn nhw ym Mhrydain.