Stormydd Rhagfyr ar hyd arfordir Rhyl

Mae’n noswyl Nadolig ac mae stormydd creulon ddoe wedi tawelu o’r diwedd. Ond mae’r clustogau iorwg ar hen fonion y coed masarn tu allan i’r ffenest yn dal i sgleinio’n felynwyrdd yn erbyn clais o awyr lwyd ac mae sŵn y gwynt i’w glywed yn hyrddio’n flin i lawr y corn simdde. Mae mwy i ddod eto cyn diwedd wythnos mae’n  siwr. Roedd hi’n beryglus ddoe gyda gwyntoedd 87 mya wedi eu cofnodi yn Eryri, rhybuddion lllifogydd ‘peryg bywyd’ yn ne-orllewin Lloegr, trenau a fferîs wedi canslo a dau  berson wedi marw.

Hon oedd yr ail bennod o dywydd difrifol y mis hwn. Y penwythnos diwethaf mi es i draw i Rhyl er mwyn gweld y difrod a achoswyd gan y pwniad llanw mawr ar Ragfyr 6ed 2013. Roedd tipyn o sôn a digon o rybudd wedi bod am hwn – roedd 230 rhybudd llifogydd ar draws Cymru a Lloegr a 41 rhybudd llifogydd ‘peryg bywyd’. Roedd ‘na ddarogan y byddai’r storm cyn waethed â llifogydd y Môr Udd nôl yn 1953 pan gododd lefel y môr 5m uwchben lefel arferol llanw uchel a phan gollodd 307 o bobl eu bywydau a 40,000 arall eu cartrefi. Roedd yr un cyfuniad allweddol o ffactorau’n bresennol ar Ragfyr 6ed 2013 – yn gyntaf, ardaloedd dwfn o wasgedd isel yn symud ar draws gogledd Prydain tuag at yr Iseldiroedd gan achosi i arwynebedd y môr oddi tanodd godi fel cromen wrth i’r awyr godi. Yr ail ffactor oedd llanw uchel iawn a’r trydydd oedd gwyntoedd cryf i wthio’r gromen tua’r tir ar hyd arfordir gogledd-orllewin Cymru a’r Alban ac i lawr arfordir dwyreiniol Prydain.

Gwelwyd y llanw uchaf yng Nghymru ers 20 mlynedd ar Ragfyr 6ed 2013. Cododd y gwynt i gyflymdra o 140 mya ac roedd rhaid i gannoedd adael eu cartrefi ar hyd arfordir y gogledd. Rhyl oedd canolbwynt sylw’r wasg ar y pryd ond roedd hi’n heddychlon iawn yno wythnos diwethaf. Doedd dim pentyrrau o ddodrefn trist nag argaeau llwyd o fagiau tywod i’w gweld ar ochr orllewinol y dre, ble mae meysydd carafaniau, siopau a ‘stadau byngalôs yn gorwedd yn beryglus o isel mewn ardal sy’n galw’n druenus am weledigaeth fawr  a dewr i ail gynllunio ac adennill y dirwedd ar gyfer byd natur. Roedd tyrbeini gwynt Rhiannon yn fyddin llonydd a llachar ar y gorwel ac roedd pobl yn cerdded eu cŵn ar draeth tawel. Roedd ganddyn nhw straeon am stormydd swnd ac am donnau maint ty ond nid oedd unrhyw un i weld yn gwybod yn union ble ddigwyddodd y dinistr mawr a welwyd ar y newyddion.

048

Penderfynais grwydro drwy’r dre cyn troi am adre. Golwg aeafol o ddigalon oedd ar  ffrynt Rhyl ond draw yn y pen dwyreiniol roedd cyfres o glwydi metel a haid o bobl o’u cwmpas yn awgrymu bod ‘na rywbeth i’w weld yno. Roedd hi’n werth aros. Roedd brathiad y storm wedi chwalu rhan o’r promenâd yn deilchion; roedd talpiau concrit yn gorwedd blith draphlith ar hyd y lle a’r tarmac wedi ei hollti’n gannoedd o ddarnau tenau, fel casgliad o grochenwaith cyn-hanesol.  Roedd y llanw wedi llarpio’r tir o gwmpas meinciau coffa ac wedi bylchu’r gwelyau blodau a oedd bellach yn chwydu eu boliau dros y prom. Islaw’r wal fôr roedd y tonnau’n dal i ffromi’n fileinig o frown dros y grisiau caled sydd yno i’w dofi, fel rheol.

096071072076

Tagiau: