John Muir yn llygadu cornel o Gymru

Dydd Sul, Rhagfyr 1af 2013. Fe wawriodd yn ddiwrnod llwyd, ac yn ddiwrnod llonydd, llonydd. Rhyw ddydd Sul o ddydd Suliau. Dim un llygedyn o haul i danio’r lliwiau rhwd a brown ar y coed a’r llethrau ond ar waetha’r dydd llwm dyma benderfynu cadw at y cynllun a mynd i weld y darn o dir y mae Ymddiriedolaeth John Muir yn bwriadu prynu yn un o rannau mwyaf godidog a gwyllt Cymru.

Mae mynyddoedd y Rhinogydd, i’r dwryain o dref Harlech yn greigiog, garw ac yn teimlo’n dawel a diarffordd o’u cymharu â chopaon prysur canol Eryri. Mae llygad Ymddiriedolaeth John Muir ar ddarn o dir 105-hectar o’r enw Carreg y Saeth Isaf, ym mhen uchaf Dyffryn Artro, gerllaw Cwm Bychan. Hwn fydd y darn cyntaf o dir i’r Ymddiriedolaeth ei brynu y tu allan i Gymru ac mae’r gwaith o chwilio am arian – cyfanswm o £500,000.00 – wedi cychwyn.

397371375387408409

Aeth dau ohonon ni am dro heddiw i gael golwg ar y lle. Dringo’n igam ogam drwy weundir a gorgors, heibio patshyn rhyfedd o binwydd yr Alban a oedd yn edrych yn ddieithr ond yn hardd mewn cornel o gae euraid, gwlyb , a thrwy filoedd o goesau sgerbydol gwyn llafn y bladur. Pigo’n ffordd yn ofalus dros greigiau Cambriaidd Cromen Harlech hyd nes i ni gyrraedd Llyn Gloywlyn. Welson ni’r un enaid byw, na chlywed fawr ddim chwaith ar ôl brefu cynhyrfus y ddiadell o ddefaid ar y caeau isaf a ruthrodd tuag aton ni ar ddechrau’r daith yn y gobaith o gael tamaid o borthiant gaeaf. Dim ond galwad cras un gigfran oedd yn torri’r tawelwch ar y tir uchel, a sŵn slwtshio’n sgidiau mawr ar dir soeglyd, a bybylu netnydd bychain cyfrwys yn cuddio dan fantell o frwyn a hesg. Roedd copa’r Rhinog Fawr dan gapan cwmwl, a hwnnw wedi adlewyrchu’n hudolus yn nyfoedd Llyn Gloywlyn. Am ychydig o funudau daeth yr haul i’r golwg, yn goleuo’r caeau ger Gerddi Bluog ar ochr arall y cwm, ac yna drwy’r cymylau, yn lleuadau arian yn y dŵr bas ar ymyl y llyn.

Mae’r tir wedi ei ddynodi – sawl gwaith! Mae’n lle arbennig ac yn fan heddychlon. Aethom yn ein blaenau i lawr at Gwm Bychan a nôl at y car gan ddilyn y lôn fach o gwmpas glannau llyn Cwm Bychan. Ar yr ochr draw roedd dau alarch y gogledd gosgeiddig yn hollti adlewyrchiad oer y coed, y creigiau a’r lleiniau corsiog ar y llethrau, gan alw i’w gilydd bob hyn a hyn gyda’u trwmpedu gwichlyd cyfarwydd .