Hugan, broc a gêm rygbi

Mi ge’s i fflach o syniad bore ‘ma, gyda’r Nadolig rownd y gornel. Meddwl wnes i y byddai’n syniad creu torch allan o’r broc môr ar draeth Dinas Dinlle. Byddai’r holl blastig yn dod â thamaid o liw i’r ty, byddai’r traeth yn lanach, y cŵn a ninnau wedi cael ychydig o awyr iach ac mi fyddai’r torch fel rhyw fath o lygad warcheidiol droston ni am y mis nesa, y nein hatgoffa i beidio bod yn wastrafflyd dros y ‘Dolig.

Roedd hi’n fore hyfryd.Yn dawel, gydag awyr las a haul braf 100C a deimlai’n llawer mwy cynnes na hynny wrth grwydro’r traeth yn llenwi’n bagiau. Gwagsymera am rhyw dair awr yn pendroni am hanes pethau a meddwl am y posibiliadau addurniadol adre. Ond y trysor pennaf oedd penglog hugan anferth, yn fflachio’n wyn fel un o fasgiau Fenis dan benwisg o wymon tywyll.

HuganBroc Mor358

Nôl adre fe ddiflannodd y syniadau a’r brwdfrydedd yn weddol gyflym, yn enwedig wrth i’r cynnwrf am y gêm rygbi Cymru v Awstralia gychwyn o ddifri’ ar y radio. Arhosodd y sbwriel yn gandi-fflos blêr ar lawr y gegin ac fe wrthododd y darnau pren llyfn, hallt, gael eu siapio’n gylch tymhorol perffaith ar waethaf pob ymdrech gyda phinnau, morthwyl a glud.

Ond mae’r penglog hugan yn dal i gyfareddu. Un arall i’r casgliad penglogau sy’n addurno wal un o ‘stafelloedd y ty . Mae’r adar hyn yn plymio, fel saethau, o uchder 10-40m i ddal pysgod a gallant gyrraedd cyflymdra o 100km wrth fynd i’r dŵr. Mae pothelli awyr rhwng y croen a’r cyhyrau yn helpu lleihau effaith yr ardrawiad ond mae’r big hefyd yn drwchus, cadarn a chryf. O ble ddaeth y ‘deryn hwn tybed? O’r 21 nythfa o gwmpas y DU mae’r rhai agosaf ar Ynys Gwales yn Sir Benfro, Swydd Wigtown yn yr Alban a Great Saltee yn ne ddwyrain yr Iwerddon. Mae’r rhain i gyd gryn bellter i ffwrdd, ond mae gwaith tracio diweddar wedi dangos bod yr adar hyn yn teithio pellteroedd maith. Ond ni fydd yr un hwn yn symud bellach – caiff gymryd ei le yn loyw o wyn ar silff uchaf y casyn penglogau yn yr ystafell fyw.