Hydref yng Ngallt y Tlodion, Llanymddyfri

Roedd hi’n ddiwedd p’nawn erbyn i ni gyrraedd mynedfa Gallt y Tlodion ar gyrion Llanymddyfri. Roedd y diwrnod wedi bod yn un distaw, digyffro ; diwrnod a oedd rhywsut wedi methu deffro’n iawn ers y bore bach ac a oedd bellach yn suddo nôl drwy’r manlaw i ganol llwydolau diwedd dydd.

Y Ficer Pritchard, awdur ‘Cannwyll y Cymry’, a roddodd goedwig Gallt y Tlodion yn rhodd i Gyngor Tref a thrigolion Llanymddyfri, nôl yn y 16egG – ar yr amod y cai pobl fynd i’r goedwig ar droed yn unig i gasglu coed tân, ond dim mwy na’r hyn a fedrent gario allan ar eu cefnau. Yn ddiweddarach, yn y 19egG, roedd rhywfaint o fwyngloddio plwm yn digwydd ar y safle.

349346352

Doedd ‘na neb yn casglu coed tân yng Ngallt y Tlodion ar y diwrnod hwn. Roedd bwncath unig yn cylchu uwchben y coed deri wth i ni gamu’n swnllyd drwy garped dwfn, llaith o ddail â’i smotiau llachar o grabaits melynwyrdd bychain. O fewn ychydig fisoedd gallwn fod yma’n edmygu blodau’r gwynt a chlychau’r gog ac yn gwylio teloriaid penddu a gwybedog brith. Ond heddiw roedden ni yma i weld gwaith prosiect Tir Coed sydd wedi bod yn rhoi cyfle i rhyw ddwsin o bobl ddatblygu sgiliau drwy ddefnyddio pren o’r goedwig i greu pontydd, gatiau, adeiladau ac yn y blaen. Mae’r gwirfoddolwyr a’u sgiliau wedi symud yn eu blaenau erbyn hyn ond mae ôl eu gwaith i’w weld o hyd yn y plethwaith pren cyll, y giat mochyn bendigedig wrth fynedfa’r safle, y guddfan adar amlochrog a’r cymeriadau cerfiedig ar hyd y llwybr.