Meini cwrlo a mynyddoedd Cymru

A dyna ddiwedd felly ar y cystadlaethau cwrlo yng ngemau Olympaidd y gaeaf yn Sochi. Mae’n gamp hudolus – rhwng llithro gosgeiddig y cystadleuwyr wrth iddyn nhw ryddhau’r meini cwrlo,  y sŵn crafu cefn gwddf wrth i wenithfaen hwylio ar hyd yr ia, y brwsio a’r annog gwyllt ac yna’r clecio glân, boddhaol wrth i garreg roi cnoc i garreg a hawlio’i lle.

Pethau digon trwsgwl yr olwg yw meini cwrlo. Ond mae rhywbeth deniadol am eu perffeithrwydd llyfn a’u sglein anhygoel. ac mae ganddynt gysylltiad â Chymru hefyd. Mae Chwarel Trefor, ar ymyl eithaf arfordir gogledd Cymru, i’r gorllewin o Gaernarfon, yn dal i gynhyrchu meini cwrlo o ansawdd uchel er mai naws digon digalon sydd i’r lle y dyddiau hyn.

011

Ond ar fore prin o heulwen y penwythnos diwethaf roedd e y chwarel yn llecyn godidog i fod. Roedd cysgodion a phelydrau’n cwrso’i gilydd ar draws llethrau, caeau a waliau cerrig uwchben Nant Gwrtheyrn, sydd wedi ei wahanu oddi wrth bentref Trefor gan glamp o dalcen craig sy’n codi’n syth ac yn serth o’r môr. Tua’r gorllewin o Fwlch yr Eifl roedd bryniau Pen Llŷn yn ymestyn yn gyfres o donnau llwydlas hardd. I’r cyfeiriad arall roedd y tir yn ‘sgubo fyny o fôr llwydlas bae Caernarfon tuag at gopaon Gyrn Goch a Gyrn Ddu, ac yn y pellter roedd mynyddoedd uchaf Eryri yn llachar wyn dan gapiau eira.

005

024

Doedd ‘na ‘run enaid byw arall o gwmpas y lle. Yr unig gwmni gawson ni wrth grwydro lawr drwy’r chwarel anferth oedd dwy gigfran a oedd wrthi’n brysur yn cario coesynnau llwyni grug yn ôl i’w nyth cynnar, â sŵn eu crawcian yn drybowndio o gwmpas y muriau craig uchel.Roedd y darnau mân o wenithfaen onglog yn crensian yn uchel dan ein traed, fel darnau o wydr, ond doedd hynny’n poeni dim ar y criwiau bach teuluol o eifr gwyllt – a oedd yn gyndyn efallai i wastraffu eu hegni yn y fath dirwedd llwm o greigiau, grug a glaswellt mwsoglyd.

051

Roedd y chwarel ar stop heddiw; roedd ambell anghenfil o beiriant yn gorffwyso ac yn edrych fel teganau pitw wrth odrau’r clogwyni chwarel anferth. Roedd yr hen adeiladau chwarel yn llonydd ac yn anghynnes ac roedden ni’n falch i gyrraedd gwaelod yr inclein a throi tua’r môr at  fferm Morfa sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd brain coesgoch a phiod môr yn gwmni cyson wrth i ni grwydro o gylch Trwyn y Tal, â’r cymylau’n hel o’r gorllewin y tu ôl i ni. Wrth droi nôl tua’r tir roedd hen harbwr tawel Trefor yn edrych yn groesawgar ac roedd hi’n braf clywed briwsion o sgwrs ac acenion pysgotwyr lleol yn cario ar awelon canol p’nawn cyn troi am adre.

058

063

 

 

105

131

137