Tamaid am y Blog

Cymru – gwlad fach, tirweddau mawr, pobl hynod a byd natur hudol

Dros y 5 mlynedd nesaf mi fydda’ i’n ‘sgwennu am y pethau dwi’n gweld, y bobl dwi’n cyfarfod, y cyfrinachau a’r straeon sy’n codi’n ddibendraw o’r tir ac o’r môr.

Fe gewch glywed am ysbrydoliaeth, twyll, darganfyddiadau, dirgelion, cariad a cholled.

Mi fydda i’n anfon o leia’ un cerdyn post yr wythnos i’r blog hwn wrth deithio o gwmpas Cymru dros y 60 mis nesaf yn casglu hanesion a lluniau am y pethau sy’n clymu pobl a lleoedd at ei gilydd yn y gornel fach hon o’r byd.

Mwynhewch!