Y Fenni, blew gafr a bwyd

Dwi ‘di dysgu dau beth newydd am dref hyfryd y Fenni yr haf hwn.

Yn gyntaf, roedd yn lle enwog ar gyfer gwneud wigiau nôl yn y 18fedG. Bryd hynny roedd dynion cefnog a phroffesiynol yn eu gwisgo nhw ac yn ôl y sôn, yma yn y Fenni y dyfeisiwyd ffordd o wynnu’r blew gafr a ddefnyddiwyd i wneud y wigiau drudfawr.

335

337

Dysgu hynny o banel serameg ar wal ty bwyta Gurkhaidd wnes i – cartref James Jones, un o wig-wneuthrwyr y dref tua 1741. Ar y pryd ro’n i’n chwilio am dystiolaeth bod y Fenni yn dref ‘incredible edible’. Clywed am hyn gan ddynes ar y tren i Gaerdydd wnes i. Criw bychan o bobl ddechreuodd y syniad o drefi ‘incredible edible, nôl yn 2007 – yn nhref fach Todmorden, yng ngogledd Lloegr.

‘Pawb yn deall bwyd’ medden nhw. Syniad syml sydd wrth wraidd y peth – cynhyrchu mwy o fwyd o gwmpas trefi fel ei fod ar gael i unrhyw un. Fe ddechreuon nhw yn Todmorden gyda gerddi perlysiau a rhandiroedd cymunedol ond erbyn hyn mae ‘na bysgodfa yn yr ysgol uwchradd leol a gardd farchnad yn cael ei rhedeg gan bobl ifanc. ‘Gwnewch y pethau bychain’ yw’r neges – arwyddair mawr Carwyn Jones ar hyn o bryd gyda’i genhadaeth bropor-lywodraethol dros y Gymraeg – felly dylai ganu cloch Dewi-Santaidd ym mhob cornel o’n gwlad fach ni. Dwn i ddim chwaith faint o drefi Cymru sy’n brolio eu bod nhw’n rhai ‘incredible edible’ – ond mae ‘na 50 ohonyn nhw ar hyd a lled Prydain a’r rhwydwaith gyfan yn fyd eang.

‘Sut ‘swn i’n gwybod bod y Fenni’n dref ‘incredible edible’? gofynnais i’r wraig ar y tren. ‘Dim ond yr hen flodau lliwgar neis-neis dwi’n gweld mewn tybiau a basgedi crog pan fydda i yno?

‘Mae gyda ni dipyn o ffordd i fynd, ond ewch i weld yr orsaf heddlu’, awgrymodd. ‘Maen nhw’n frwd ofnadwy ac mi ro’ith syniad i chi o’r gwaith ry’n ni’n gwneud’.

‘Ac ewch i weld yr berllan i lawr wrth yr afon hefyd’ cofiodd ddweud wrth godi o’i sedd yn ngorsaf ganolog Caerdydd – ‘Un gymunedol yw hi ac mae’n edrych yn hyfryd ar hyn o bryd’.

Felly chwilio am swyddfa heddlu’r Fenni oeddwn i pan welais i’r pwt o wybodaeth am wigiau. Chymerodd hi ddim yn hir i ddod o hyd iddi. Y tu allan roedd llain bach twt a thaclus (dim syndod!) yn llawn planhigion india corn, courgettes, mefus, winwns, tomatos a moron. Daeth un o’r heddweision allan a hofran yn amheus wrth y drws wrth fy ngweld yn tynnu lluniau. Ond roedd hi’n ddigon parod i gael sgwrs.

 

039    041

‘Mae’n syniad arbenig’ dywedodd. ‘Ry’n ni wedi cael lot o hwyl eleni ac ry’n bendant yn mynd i gario mlaen -a gobeithio bydd rhagor o fusnesau yn dod yn rhan o’r peth.’ Ar y ffordd nôl at y stesion fe ddois ar draws y berllan hefyd, ar ben draw ffordd fechan, rhwng unedau diwydiannol a’r dolydd hyfryd ar ymyl yr afon Gwy lle roedd llanciau’n sefyll at eu tinau yng nghanol y dŵr, yn yfed caniau ac yn llawn swae o flaen eu cynulleidfa edmygus ar y lan – ond yn gyndyn o wlychu rhagor hefyd!

Dwi’n hoffi’r syniad yn fawr. Byddai’n braf gweld ‘trefi bwyd i bawb yn bob man’ ar hyd a lled Cymru – a gwelyau, bocsys, basgedi, tiroedd ysgol a rowndabowts yn orlawn o blanhigion y gallwn ni gyd eu bwyta, ac y gall gwenyn a phryfaid eraill eu mwynhau, yn hytrach na’r sowldiwrs F1 llachar-am-ddeufis sy’n dueddol o lenwi pob twll a chornel ar hyn o bryd, pan fydd arian ar gael gan ein cynghorau.

045