Deffro’r gwanwyn yn Nhalacharn

Dechreuodd yr haf, yn swyddogol, ar Fawrth 30ain eleni. Am ddiwrnodau cyn hyn roedd niwl trwchus wedi gorwedd ar hyd y glannau a phob man yn teimlo’n ddistaw a diog. Roedd gerddi Llanerchaeron yn gysglyd o hardd, er bod criw o wirfoddolwyr wrthi’n brysur yn rhoi trefn ar y lle cyn y Pasg, rhwng eu paneidiau llawen o gylch potiau o gennin pedr llachar.

016

036

043

Ond roedd Talacharn, ar y p’nawn Sul hwnnw â’r llanw’n isel, yn gynnes braf a’r afon Tywi’n nadreddu’n araf  tuag at Fae Caerfyrddin rhwng cwysi llydan o aur a glas. Roedd  cerddwyr yn ddarnau bychain o froc ar ymylon y gors heli islaw’r castell, wrth iddyn nhw droedio’r llwybr rhwng y pentref a chartref Dylan Thomas gyda llanw a thrai’r oriau.

1013

Draw â ni ar hyd cefn y morfa at Fryn San Ioan, heibio crëyr gwargrwm yn pigyrno’r ffosydd lleidiog a dechrau dringo’r llethr drwy’r coed. Am le i weld golygfeydd cofiadwy – nôl at aber yr afon Tywi a hefyd draw  at Ben y Pyrod ar Benrhyn Gŵyr, dros gors heli’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyrion Pentywyn. Ar hyd y llwybr roedd dail ceiniog yn pefrio ar y banciau a blodau melynwyrdd yr eglyn yn sbarcio ar hyd ffrydiau bychain.

1055

1021

Mewn mannau heulog roedd y dulys wedi gwthio’i ffordd yn gadarn, hyderus  drwy’r pridd; hwn yw un o’r blodau cynharaf i ymddangos bob blwyddyn ar hyd cloddiau arfordirol – y Rhufeiniad gyflwynodd y planhigyn, yn ôl y sôn, ac mae’n fwytadwy â blas seleri chwerw arno; rhy chwerw efallai i’r rhan fwyaf o bobl ond mae ychydig o’r dail, wedi eu torri’n fân iawn, yn reit flasus mewn brechdan gyda chaws cryf.

1024

Y diwrnod hwnnw roedd y grym a ddisgrifiodd Dylan Thomas yn ei gerddi yn cerdded y tir ac yn trydanu’r egin; yr un dewin difaol a deimlai’r bardd yn cau drws ar flwyddyn arall wrth i dymor droi.

Mae siawns go dda y byddwn ni gyd wedi cael llond bol ar Dylan Thomas erbyn diwedd eleni ond tra bod y cynnwrf yn para, beth am daro draw i fwynhau Twrw Talacharn rhwng Mai 2-5 eleni – gŵyl radio fydd yn cael ei  darlledu ar dir Castell Talacharn i ddarlledu cymysgedd o sioeau byw a sioeau wedi recordio ymlaen llaw i ddathlu bywyd, gwaith ac etifeddiaeth Dylan Thomas (bbc.co.uk/dylanthomas). Ac os byddwch wedi diflasu ar y darlledu o bryd i’w gilydd gallwch fwynhau nifer o deithiau godidog ar hyd yr arfordir yn yr ardal hon.

981