Uncommon Ground: Land Art in Britain 1966-1979

Ro’n i’n lladd amser cyn dal tren rhyw b’nawn yn Nghaerdydd jest cyn Dolig. Dyma benderfynu dianc o ferw gwyllt y Nadolig ar hyd Stryd y Frenhines a throi am yr Amgueddfa Genedlaethol am awr neu ddwy www.amgueddfacymru.ac.uk . Mae digon i weld yn yr orielau ar hyn o bryd – arddangosfa o luniau bychain, obsesiynol a gwych Peter Blake o gymeriadau a golygfeydd ‘Dan y Wenallt’ gan Dylan Thomas, ac arddangosfa dda hefyd ar fywyd a gwaith Afred Russell Wallace. Ond yr arddangosfa a ddenodd fi gynta o’r ‘latte’ a’r mins pei yng nghaffi’r Amgueddfa oedd yr un am Gelf Tirwedd ym Mhrydain 1966-1979.

Arddangosfa deithiol o weithiau yng nghasgliad Cyngor y Celfyddydau yw hon. Mae’n cynnwys gwaith gan artistiaid enwog fel Susan Hiller, Antony Gormley, Richard Long, Tony Cragg a David Nash. Mae’n ceisio dangos sut mae artistiaid dros y 50 mlynedd ddiwethaf wedi dianc allan o orielau a chreu celf o fewn tirweddau agored. Mae’r arddangosfa wedi cael ei chanmol yn fawr, e.e  http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/art/reviews/charles-darwent-on-uncommon-ground-land-art-in-britain-it-may-not-be-big-but-it-is-clever-8612321.html  ond ro’n i’n crafu ‘mhen braidd i deall sut roedd y casgliad hwn o weithiau, a oedd yn edrych braidd yn flinedig bellach, yn adrodd stori gyflawn am hanes Celf Tirwedd ym Mhrydain. Doedd dim digon o ddehongli efallai, ac  roedd y ‘stafelloedd anferth gwyn a thawelwch angladdol dau geidwad a grwydrai fel ysbrydion o gwmpas y lle yn lladd unrhyw deimlad o fywyd ac egni yn y darnau. Mor wahanol i arddangosfa ‘Heaven and Earth’ o waith Richard Long yn y Tate Britain nôl yn 2009 a adawodd fi’n ysu i adael fy swydd i ddilyn trywydd tebyg (http://www.tate.org.uk/whats-on/tate-britain/exhibition/richard-long-heaven-and-earthprogress)

Pe bawn i’n byw yn agos at Gaerdydd mi allwn i fod wedi mwynhau cyfres o sgyrsiau dros y misoedd diwethaf ynglŷn â phwysigrwydd ffotograffiaeth mewn celf tirwedd. Gallwn fod wedi gwrando ar y curaduron yn cyflwyno’r arddangosfa ac yn egluro hanes y casgliad. Ac mi allwn fod wed gwylio ffimliau gan artistiad fel Ian Hamilton Finlay er mwyn deall yn well sut mae ffilm wedi chwarae rhan yn natblygiad ffurfiau newydd o gelf tirwedd. Ond mae’r ddinas yn bell o adre! Rhwystredig iawn. Amser efallai i’r Amgueddfa fuddsoddi mewn podlediadau a thechnoleg debyg er mwyn cyrraedd rhoi mwy o chwarae teg i gynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan?

Deuddydd yn ddiweddarach ro’n i’n teithio ar hyd ymyl gorllewinol Cymru, mewn tywydd fflat. Ces fy nharo eto fyth  gan  y grid perffaith o goed bedw Himalayaidd a blannwyd gan David Nash ddegawdau nôl yn nhirwedd Eryri. Roedd rhisgl gwyn y boncyffion taclus, syth yn llachar yn erbyn y coedwigoedd llwyd-aeafol o’u cwmpas. Mae’r coed yn amlwg, os ydych chi’n gwybod eu bod nhw yno – ac mae eu gweld o’r ffordd, flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gwneud i rywun ryfeddu at weledigaeth ac amynedd un dyn a’r ffordd y mae e’n defnyddio, ffurfio a lleoli elfennau naturiol i greu trefn ac aestheteg newydd ar gefndir o dryblith drefnus sy’n ffurfio’r amgylchedd naturiol o’n cwmpas. Rhywle, o fewn y darn bach hwnnw o dir coediog mae’r cylch o goed ynn a blannwyd ganddo gyda’r bwriad o asio’r canghennau’n blethwaith cain – fel rhyw fath o fasged naturiol. Roedd ei sgetsys pensel gwelw o’r coed gwreiddiol yn un o’r gweithiau yn arddangosfa Caerdydd. Mi fyddai’n  meddwl yn aml, wrth yrru heibio, sut olwg sydd arnyn nhw bellach, 30 mlynedd ar ôl eu plannu.

027